Mae arweinydd yr wrthblaid yn Rwsia wedi cael yr hawl i adael y wlad, ar ôl cael ei atal ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 13) wrth iddo deithio i wrandawiad yn Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Ffrainc.
Roedd y gwrandawiad yn trafod os yw ei garcharu parhaus gan yr awdurdodau yn Rwsia yn weithred wleidyddol ai peidio.
Fe gyhoeddodd Alexei Navalny lun ohono’i hun ym Maes Awyr Mosgow ddoe, gan ddweud ei fod wedi’i atal rhag gadael y wlad.
Dywedodd fod swyddogion wedi’i hysbysu bod ganddyn nhw orchymyn i’w atal ac i gasglu tua £24,000 oddi wrtho mewn cyswllt â her gyfreithiol yn ei erbyn.
Cafodd yr arian ei dalu’n syth, yn ôl y gwleidydd.