Mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud fod yr argyfwng ariannol wedi cyrraedd “cyfnod peryglus iawn”.

Ond dywedodd ei fod yn gweld arweinwyr gwleidyddol yn dechrau dod at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael â’r problemau yn yr Unol Daleithiau a pharth yr ewro.

Dywedodd fod gweinidogion ariannol yn “obeithiol ein bod ni wedi cymryd cam tuag at ddatrys y mater” yn dilyn trafodaethau yn Washington.

Dywedodd swyddogion y Gronfa Ariannol Ryngwladol eu bod nhw’n galonogol yn dilyn trafodaethau rhwng gwleidyddion o wledydd y G20 yn eu pencadlys.

“Mae’r sefyllfa yn un peryglus ond mae gweinidogion wedi dod i ddeall difrifoldeb pethau,” medden nhw.

Yn dilyn y trafodaethau dywedodd George Osborne fod gwledydd parth yr ewro “yn deall fod yn rhaid iddyn nhw weithredu ar frys a bod gweddill y byd yma i roi cymorth”.

“Rydyn ni’n gwneud cynnydd yn hynny o beth ond mae yna sawl her yn ei wynebu ni,” meddai.

Yn ôl adroddiadau mae arweinwyr parth yr ewro wedi bod yn trafod cynllun fyddai yn costio £2.6 triliwn er mwyn cadw’r ewro i fynd.

Fe fyddai banciau bregus Ewrop yn cael rhywfaint o arian, Gwlad Groeg yn cael methdalu, a rhagor o arian yn cael ei fuddsoddi mewn cronfa er mwyn rhoi cymorth i wledydd eraill.

Dywedodd George Osborne fod gan wledydd parth yr ewro chwe wythnos yn unig er mwyn datrys eu problemau ariannol.