Mae’r heddlu yn Barcelona wedi cau dwy orsaf drenau’r ddinas wrth iddyn nhw chwilio am ffrwydron.
Daw’r newyddion ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i gês amheus yng ngorsaf Sants fore heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 7).
Dywed yr heddlu fod staff yr orsaf yn gofidio ar ôl dod o hyd i’r cês, gan feddwl y gallai gynnwys dyfais ffrwydrol.
Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n dilyn protocol wrth gau’r gorsafoedd tra’n cynnal ymchwiliad.