Indonesia
Plymiodd tryc oedd yn cario 34 o deithwyr i mewn i geunant wrth i’r gyrrwr geisio osgoi gwrthdaro â bws oedd yn dod i’r cyfeiriad arall.
Dywedodd heddlu Indonesia fod 14 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r trychineb.
Yn ôl pennaeth yr heddlu Abdul Hasyim roedd y teithwyr ar eu ffordd i weithio ar blanhigfa olew palmwydden.
Ychwanegodd fod y tryc wedi disgyn i’r ceunant 25 troedfedd yn ardal Kotawaringin Timur talaith Kalimantan yn hwyr ddydd Gwener.
Cafodd y dioddefwyr eu caethiwo o dan y tryc.
Mae damweiniau ar y ffyrdd, y rheilffordd a chychod yn lladd cannoedd bob blwyddyn yn Indonesia, yn bennaf oherwydd rheolau diogelwch llac.