Mae llywodraeth yr Aifft yn dweud bod angen “cytundebau ffurfiol” wrth i Ethiopia adeiladu’r argae hydro mwyaf yn Affrica.

Mae’r Aifft yn pryderu y bydd adeiladu’r argae, sy’n werth $4.8bn, yn lleihau ei chyfran o afon Nîl, sy’n ffynhonnell holl ddŵr y wlad.

Yn ôl yr Arlywydd Abdel-Fattah el-Sissi, mae angen sicrhau na fydd yr argae’n cael ei ddefnyddio at “ddibenion gwleidyddol”, ond ychwanega fod “arwyddion positif” yn dod o du llywodraeth Ethiopia ar hyn o bryd.

Mae Ethiopia’n dweud bod angen yr argae arni ar gyfer datblygiadau economaidd.