Mae dros ddwsin o dwyllwyr wedi ceisio hawlio mwy na £600,000 o arian oedd ar gael ar gyfer goroeswyr trychineb Tŵr Grenfell.

Y diweddaraf allan o’r 13 person yw Sharife Elouahabu, 38, sydd wedi cyfaddef o geisio hawlio £103,4765.60 ar gyfer cymorth ariannol a llety rhwng Mehefin 2017 a Mehefin 2018.

Roedd wedi honni ei fod wedi bod yn aros mewn fflat ar 21ain llawr y twr ble gwyddai bod teulu wedi marw.

Bu farw 72 o bobol yn nhrychineb Tŵr Grenfell yn Llundain ar Fehefin 14 y llynedd.

“Cymryd mantais digywilydd”

Dywedodd Cwnstabl Ditectif Ben Rouse bod Sharife Elouahabu wedi “cymryd mantais digywilydd” o ymdrechion i gymhorthi bobol oedd wedi colli eu cartrefi.

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres hir o achosion o dwyll sy’n gysylltiedig â Grenfell. Rhaid i ni barhau i ymchwilio ac erlyn unrhyw un sydd yn elwa’n ariannol o’r tan, ac yn dwyn adnoddau a chefnogaeth i’r dioddefwyr go iawn.”

Y twyllwyr

– Anh Nhu Nguyen, 53: £11,270

– Joyce Msokeri, 47: £19,000

– Mohammad Ali Gamoota, 32: £6,264

– Elaine Douglas, 52: £67,125.35

– Tommy Brooks, 52: £58,396.89

– Derrick Peters, 58: £40,000

– Antonio Gouveia, 33: £53,456.76

– Yonatan Eyob, 26: £86,831

– Jenny McDonagh, 39: £62,000

– Mohammed Syed Rinku, 46: 5070.26

– Koffi Kouakou, 53: £30,000

– Sharife Elouahabi, 38: £103,475.60

– Abdelkarim Rekaya, 28: £88,183.70