Mae Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Jeremy Hunt yn galw am ymateb pwyllog i’r manylion am lofruddiaeth y newyddiadurwr Jamal Khashoggi yn adeilad llywodraeth Sawdi Arabia yn Istanbul.

Daeth cadarnhad brynhawn ddoe (dydd Mercher, Hydref 31) iddo gael ei dagu wrth fynd i mewn i’r adeilad, a bod y digwyddiad wedi’i gynllunio ymlaen llaw.

Wrth ymateb, dywedodd Jeremy Hunt fod angen ystyried perthynas Prydain â Sawdi Arabia a phwysigrwydd y berthynas o ran cyflenwi arfau, ynghyd â goblygiadau eu hymateb i’r Dwyrain Canol ar y cyfan.

“Eglurais pe bai straeon y wasg yn gywir – ac mae’n ymddangos yn gynyddol debygol eu bod nhw – yna byddai’r hyn ddigwyddodd yn gwbl groes i’n gwerthoedd,” meddai Jeremy Hunt.

“Rhaid i’n hymateb fod yn bwyllog am ddau reswm. Yn gyntaf, mae gennym berthynas fasnachol ac mae swyddi yn y Deyrnas Unedig – yn y gogledd-orllewin a’r de-orllewin – yn y fantol.

“Mae sefyllfa heriol iawn yn y Dwyrain Canol,” meddai wedyn.