Mae ewythr Jamie Perkins, dyn 41 oed y cafwyd hyd i’w gorff yn Gilfach Goch union flwyddyn yn ôl, wedi apelio am wybodaeth.
Does neb wedi’i arestio mewn perthynas â’i farwolaeth ar Dachwedd 1 y llynedd, ac mae Allan Perkins yn gobeithio bod gan rywun wybodaeth a allai symud yr ymchwiliad yn ei flaen.
Mae lle i gredu y gallai ei gorff fod wedi bod yn gorwedd mewn lôn gul am hyd at dair wythnos.
Er gwaethaf sawl apêl – a gwobr ariannol o £10,000 – dydy’r teulu ddim callach ynghylch yr hyn ddigwyddodd iddo, ond maen nhw’n credu y gall fod gan rywun lleol wybodaeth allweddol.
Jamie Perkins
Dywed Allan Perkins fod ei nai, Jamie, yn hoff o focsio, gan fynd ymlaen i gynrychioli Cymru, a chystadlu yn y Gemau Gwyddelig yn Iwerddon.
Ond fe gollodd ei ffordd ac roedd ganddo “broblemau”, meddai, er y byddai’n “gwneud unrhyw beth dros unrhyw un”.
Dywed fod tad Jamie yn sâl a’i fod am wybod beth ddigwyddodd i’w fab, a’i fod yn “haeddu gwell gan bobol y gymuned hon”.
Yr ymchwiliad
O heddiw ymlaen (Tachwedd 1), bydd yr heddlu’n mynd o ddrws i ddrws yn apelio am wybodaeth gan drigolion Gilfach Goch.
Byddan nhw hefyd yn ymweld â busnesau lleol i atgoffa pobol fod y sawl a laddodd Jamie Perkins yn dal â’u traed yn rhydd.
Doedd neb wedi ei weld ar ôl Hydref 8 y llynedd, dair wythnos cyn i’w gorff gael ei ddarganfod.
Dywed yr heddlu na fyddan nhw fyth yn rhoi’r gorau i chwilio am y sawl oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth.