Mae Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau ar fin arwyddo gorchymyn i anfon beth bynnag 800 o filwyr i’r ffin â Mecsico.

Mae Jim Mattis yn ymateb i ordors gan yr arlywydd Donald Trump, sydd wedi addo defnyddio’r fyddin i ddelio â’r hyn y mae’n ei alw’n “argyfrwng cenedlaethol”.

Mae’n cyfeirio at yr wythnosau diwetha’ o herio wrth i ffoaduriaid o Hondwras ddefnyddio’r llwybr trwy Mecsico i ffoi rhag newyn ac amodau byw erchyll yn eu gwlad eu hunain.

Fe fydd y milwyr hefyd yn mynd â cherbydau, pebyll ac offer o bob math gyda nhw.

Mae yna eisoes tua 2,000 o filwyr y Giard Cenedlaethol yn gweithio ar y ffin rhwng America a Mecsico, meddai’r Pentagon.