Mae perchennog Topshop, Syr Philip Green, wedi cael ei enwi gan Peter Hain yn Nhy’r Arglwyddi fel y gŵr busnes sydd yng nghanol achos o honiadau o gamymddwyn rhywiol.

Mae unigolyn cyfoethog wedi sicrhau gwaharddiad yn erbyn papur newydd y Daily Telegraph rhag cael ei enwi mewn print, ond mae Peter Hain wedi cyhoeddi ei fod yn teimlo “dyletswydd” i adael i bobol wybod pwy yw e.

“Fe ddaeth rhywun, sydd yng nghanol yr achos o ddyn busnes pwerus sy’n defnyddio cytundebau cyfrinachol a thaliadau enfawr er mwyn celu’r gwirionedd ynglyn â chwynion niferus o gamymddwyn rhywiol, mewn cysylltiad â fi,” meddai Peter Hain ym mhalas Westminster heddiw.

“Mae’n ymwneud hefyd â chyhuddiadau parhaus o gamymddwyn ar sail hil ac o fwlio,” meddai wedyn.

“Dw i’n teimlo dyletswydd i ddefnyddio braint y Senedd, i enwi Philip Green fel yr unigolyn dan sylw, gan fod y wasg wedi’u rhwystro gan waharddiad rhag datgelu manylion y stori sydd, yn amlwg, o ddiddordeb i’r cyhoedd.”