Mae dyfais ffrwydrol wedi cael ei darganfod yng nghartref Hillary a Bill Clinton yn Efrog Newydd, meddai swyddogion yn yr Unol Daleithiau.
Yn ôl y gwasanaethau cudd-wybodaeth, roedd dyfais ffrwydrol hefyd wedi cael ei hanfon at y cyn-Arlywydd Barack Obama yn Washington.
Credir bod y dyfeisiadau yn gysylltiedig ag un y cafwyd hyd iddi ddydd Llun yng nghartref y biliwnydd George Soros.
Cafwyd hyd i’r ddyfais yng nghartref Hillary a Bill Clinton yn Chappaqua, Efrog Newydd yn gynnar fore dydd Mercher (24 Hydref).
Mae’r sianel newyddion CNN hefyd yn dweud bod pobol wedi cael eu symud o’u swyddfeydd yn Efrog Newydd ar ol i becyn amheus gael ei ddarganfod yno.
Mae’r Tŷ Gwyn wedi condemnio’r ymgais i ymosod ar Barack Obama, Hillary Clinton ac eraill gan ddweud bod y “gweithredoedd brawychol yma yn ffiaidd.”