Mae’r Eidal yn dal ei thir yn erbyn gweddill aelodau’r Undeb Ewropeaidd, wrth i’r llywodraeth yno fwriadu cynyddu gwariant cyhoeddus a mynd i fwy o ddyled.
Mae’r prif weinidog Giuseppe Conte wedi amddiffyn cyllideb y wlad, er i’r Undeb Ewropeaidd ei beirniadu yn llym.
Bwriad yr Eidal ydi cynyddu ei diffyg ariannol y flwyddyn nesa’ i 2.4% – dair gwaith yn fwy na’r targed gan y llywdoraeth flaenorol.
Ond mae’r Undeb Ewropeaidd yn cwyno fod hynny’n golygu na fydd yr Eidal yn gallu lleihau ei dyled, fel yr oedd wedi addo. Mae’r ddyled ar hyn o bryd yn ddwbwl yr hyn sy’n cael ei ganiatau i wledydd.
“Dydi’r cynllun ddim yn achosi risg o gwbwl i sefydlogrwydd ariannol yr Eidal,” meddai’r prif weinidog, “nac i wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd chwaith.
“Mae wedi’i seilio ar syniadau da, ac fe fydd yn hyrwyddo twf economaidd.”
Er bod Guiseppe Conte yn amddiffyn y gyllideb yn frwd, mae buddsoddwyr ac arbenigwyr ariannol yn amheus o’r cynllun.