Mae bwyty Twrceg wedi cael ei roi ar dân mewn dinas yn yr Almaen, ar adeg pan mae yna dipyn o brotestio gwrth-ffoaduriaid wedi bod yno.
Yn ôl yr heddlu yn nhalaith Saxony, bu’r digwyddiad mewn bwyty yn Chemnitz yn ystod oriau mân bore Iau (Hydref 18).
Maen nhw’n dweud bod tystion wedi gweld tri dyn yn rhedeg o’r fan, cyn neidio i mewn i gar.
Cafodd y tan ei ddiffodd yn gyflym, a chafodd neb eu hanafu.
Mae protestio wedi bod yn ninas Chemnitz ers i ddyn gael ei lofruddio ym mis Awst, gyda grŵp o fewnfudwyr yn cael eu hamau o gyflawni’r weithred.
Cafodd bwyty Iddewig ei ddifrodi yn ystod un o’r protestiadau hefyd.