Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi bygwth cau’r ffin â Mecsico, wrth i ffoaduriaid o Hondwras geisio ei chroesi yn anghyfreithlon.

Mewn neges ar y wefan gymdeithasol, Twitter, mae Donald Trump yn dweud y bydd yn defnyddio’r fyddin i “gau’r ffin ddeheuol” os nad yw Mecsico yn datrys y broblem.

Mae’n dweud ei fod am i Lywodraeth Mecsico “ddod â’r gyflafan hon i ben”, cyn mynd ymlaen i fytheirio am gytundeb masnach rhwng Canada a Mecsico.

Mae mwy na 2,000 o ffoaduriaid o Hondwras yn ceisio croesi’r ffin.