Mae arweinydd yr wrthblaid yn Periw, a gafodd ei harestio’r wythnos ddiwethaf ar amheuaeth o wyngalchu arian, wedi cael ei rhyddhau.
Mae Keiko Fukimori yn ferch i gyn-arlywydd y wlad, Alberto Fujimori, sydd wedi wynebu cyhuddiadau yn y gorffennol o dwyll a cham-drin hawliau dynol.
Mae’r ferch yn cael ei hamau o ddefnyddio tua 1.2m doleri (£913,000) yn anghyfreithlon yn ystod ei hymgyrch arlywyddol yn 2011.
Mae’n debyg ei bod wedi derbyn yr arian wrth gwmni adeiladu o Brasil o’r enw Odebrecht.
Roedd Keiko Fujimori yn agos at gipio’r arlywyddiaeth yn 2016, pan gollodd i Pedro Pablo Kucsynski, a ymddiswyddodd ddechrau’r flwyddyn oherwydd sgandal sy’n gysylltiedig ag Oderbrecht.
Mae Keiko Fujimori yn arweinydd ar Fuerza Popular, sef y blaid fwyaf yn y gyngres yn Periw.