Mae merched yn lleisio pa mor anfodlon ydyn nhw am nad oes ganddyn nhw hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd yr Eglwys Gatholig.
Mae mis cyfan o gyfarfodydd synod yn cael eu cynnal yn y Fatican ar hyn o bryd, wrth i esgobion drafod y mater o weinidogaethu dau berson ifanc.
Ond mae deiseb wedi cael ei sefydlu gan tua hanner dwsin o grwpiau Catholig yn mynnu bod y llond llaw o leianod sy’n mynychu’r synod yn cael yr hawl i bleidleisio.
Hyd yn hyn, mae’r deiseb wedi derbyn bron 5,000 o lofnodion, ac mae ymgyrch yn cael ei gynnal ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.
Cafodd yr ymgyrch hwn ei ysbrydoli gan grŵp o leianod o’r Swistir, a gyhoeddodd luniau o’u hunain yn dal arwydd a oedd yn cynnwys yr hashnod, #votesforcatholicwomen (pleidlais i ferched Gatholig).
Mae newyddiadurwyr ac ymgyrchwyr wedi bod yn holi esgobion ynglŷn a’r mater ers i’r synod gwrdd ar Hydref 3.
Ond ymateb syml yr esgobion yw bod rheolau’r Fatican ddim yn caniatáu’r bleidlais i ferched.