Mae llys apêl yn yr Aifft wedi gwrthod gohirio dedfryd cyn-Arlywydd y wlad, Mohammed Morsi, sy’n wynebu tair blynedd o garchar am sarhau barnwr.
Mohammed Morsi, a oedd yn Arlywydd rhwng 2012 a 2013, oedd y cyntaf i gael ei ethol i’r swydd yn ddemocrataidd.
Ond daeth ei gyfnod wrth y llyw i ben ar ôl i fyddin y wlad ei ddisodli.
Mae’r cyn-Arlywydd Mwslemaidd hefyd wedi derbyn diryw gwerth miliwn o bunnoedd yr Aifft.
Mae 19 o ddynion eraill, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n Fwsmlemiaid, wedi derbyn yr un dedfryd hefyd.