Mae Eidalwr asgell dde eithafol wedi’i gael yn euog o saethu at fewnfudwyr ac wedi’i garcharu am ddeuddeg mlynedd.

Fe gafodd Luca Traini, 28, ei arestio ym mhrif sgwâr dinas Macerata yn dilyn ymosodiad a anafodd chwech o fewnfudwyr fis Chwefror eleni,

Mae’r ddedfryd hefyd yn cynnwys cyfnod am gorddi casineb hiliol.

Mae’r awdurdodau’n dweud Luca Traini weithredu mewn dialedd wedi i ddyn o Nigeria gael ei arestio ar amheuaeth o ladd a dad-berfeddu dynes 18 oed.