Mae llosgfynydd wedi ffrwydro ar yr union ynys yn Indonesia a gafodd ei tharo gan ddaeargryn yn ddiweddar.

Mae’r awdurdodau wedi cynnig rhybudd i awyrennau sy’n hedfan dros ynys Sulawesi ynglŷn â lludw yn yr awyr, wedi i gwmwl ag uchder o 20,000 o droedfeddi ddod o Fynydd Soputan.

Mae’r llosgfynydd i’r gogledd o’r ardal a gafodd ei tharo gan ddaeargryn a tswnami ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Mae nifer y meirw ar yr ynys o ganlyniad i’r drychineb honno bellach wedi cynyddu i bron 1,350.

Y ddinas sydd wedi’i heffeithio mwyaf gan y daeargryn ddydd Gwener (Medi 28) yw Palu, sy’n gartref i tua 380,000 o bobol.

Mae’r ymdrech achub yn parhau mewn ardaloedd eraill hefyd, ac mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau y byddan nhw’n anfon awyren a thîm o arbenigwyr milwrol er mwyn cynnig cymorth.