Mae 1,234 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r daeargryn ar ynys Sulawesi yn Indonesia.
Ond mae’r awdurdodau’n dweud nad yw’r cyfrif ar ben mewn rhai cymunedau ar yr ynys, ac mae disgwyl i’r ffigwr hwn gynyddu yn ystod y dyddiau nesaf.
Roedd y daeargryn ddydd Gwener (Medi 28) yn mesur 7.5 ar y raddfa Richter, gan greu tswnami a oedd yn 20 troedfedd o uchder mewn ambell fan.
Mae’r rhan fwyaf o sylw wedi cael ei roi i ddinas Palu, sy’n gartref i 380,000 o bobol, ond mae pobol yn dal i ddisgwyl cymorth mewn rhai ardaloedd eraill.
Mae tua 50,000 o bobol wedi’u cofnodi’n ddigartref, ac mae timoedd achub yn dal i geisio achub pobol sy’n parhau i fod yn sownd o dan rwbel adeiladau sydd wedi disgyn.