Bydd y rhyddid i symud rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben wedi Brexit, yn ôl Prif Weinidog Prydain, Theresa May.
Bydd y system fewnfudo newydd a fydd yn dod i rym ar ôl ymadael â’r Undeb yn rhoi blaenoriaeth i weithwyr sydd â sgiliau ac yn un deg ar gyfer “gweithwyr cyffredin”, meddai ymhellach.
Mae’r llywodraeth hefyd yn pwysleisio y bydd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu trin yr un fath â gweddill y byd.
Ond fydd y rheiny o wledydd ‘diogel’ sy’n ymweld â’r Deyrnas Unedig ar gyfer teithiau cyfnod byr ddim yn gorfod oedi’n hir wrth gael mynediad, wrth i’w dogfennau gael eu archwilio’n electronig.
Ailafael mewn grym
“Pan fyddwn ni’n gadael, fe fydd y system fewnfudo newydd yn dod â rhyddid i symud i ben unwaith ac am byth,” meddai Theresa May.
“Am y tro cyntaf mewn degawdau, y wlad hon fydd yn rheoli ac yn dewis pwy ydym ni eisiau i ddod yma.
“Fe fydd yn system sy’n seiliedig ar sgiliau, a gweithwyr â sgiliau sy’n bwysig, nid o ble maen nhw’n dod. Fe fydd yn system sy’n edrych ledled y byd ac yn denu pobol sydd â’r sgiliau sydd eu hangen arnom ni.”