Mae dynes o’r Unol Daleithiau yn ceisio mynd â’r pêl-droediwr Cristiano Ronaldo i’r llys, yn dilyn honiadau ei fod wedi ei threisio.

Yn ôl y ddynes o Nevada, bu’r digwyddiad mewn gwesty moethus yn Las Vegas yn 2009, pan oedd hi’n 24 oed.

Mae hi hefyd yn honni bod Cristiano Ronaldo wedi ceisio ymyrryd ag ymchwiliad yr heddlu i’r digwyddiad, gan ei thwyllo i dderbyn 375,000 doler (£268,000) er mwyn cadw’n dawel.

Mae heddlu Las Vegas wedi cadarnhau eu bod nhw wedi ailagor ymchwiliad i achos o ymosodiad rhyw mewn cysylltiad â’r ddynes.

Mae Cristiano Ronaldo wedi gwadu’r honiadau yn ei erbyn, gan ddweud ei fod yn enghraifft o rywun yn ceisio gwneud enw iddo’i hun ar draul ei enw.