Mae Palestiniaid wedi cynnal streic ledled y Lan Orllewinol er mwyn cefnogi dinasyddion Arabaidd yn Israel.
Mae’r streic yn dangos eu gwrthwynebiad i gyfraith newydd a dadleuol gan lywodraeth Israel sy’n diffinio’r wlad fel ‘gwladwriaeth Iddewig’.
Mae strydoedd Ramalla a dinasoedd eraill y Lan Orllewinol wedi bod yn wag heddiw (dydd Llun, Hydref 1) wrth i ysgolion, prifysgolion, a swyddfeydd y llywodraeth a busesau gau. Mae trafnidiaeth gyhoeddus y ddinas hefyd wedi dod i stop.
Fe gafodd y gyfraith ei phasio fis diwethaf, ac mae beirniaid yn dweud ei bod yn diystyru dinasyddion Israel nad ydyn nhw’n Iddewon.
Dywed y llywodraeth fod y gyfraith newydd yn ymgorffori “cymeriad presennol Israel”, ond mae beirniaid yn dweud ei bod yn tanseilio gwerthoedd democrataidd y wlad ac yn rhoi’r lleiafrif Arabaidd, tua 20% o’r boblogaeth, ar yr ymylon.