Mae 844 o bobol wedi marw hyd yn hyn o ganlyniad i’r daeargryn a’r tswnami a darodd ynys Sulawesi yn Indonesia ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl arbenigwyr, roedd y daeargryn ddydd Gwener (Medi 28) yn mesur 7.5 ar y raddfa Richter, gan greu tswnami a oedd yn 20 troedfedd o uchder mewn rhai mannau.
Mae 50,000 wedi cael eu cofnodi’n ddigartref, ac mae’r awdurdodau’n dweud bod y rhan fwyaf o’r marwolaethau wedi digwydd yn ninas Palu.
Er hyn, maen nhw’n amcangyfrif y bydd nifer y meirw’n cynyddu yn ystod y dyddiau nesaf wrth i ardaloedd arfordirol gael eu harchwilio.
Mae nifer o adeiladau ar yr ynys wedi dymchwel, ac mae timau achub yn dal i geisio dod o hyd i bobol o dan y rwbel.