Mae Banc Tesco wedi cael dirwy gwerth £16.4m yn dilyn ymosodiad seiber yn 2016.
Yn ôl y corff arolygu, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), mae’r ddirwy wedi cael ei rhoi oherwydd na wnaeth y banc gymryd gofal wrth ddiogelu ei gwsmeriaid yn ystod yr ymosodiad.
Mae Prif Weithredwr Banc Tesco, Gerry Mallon, wedi ymddiheuro i gwsmeriaid am y digwyddiad.
Colledion
Mae’r FCA yn dweud bod ymosodwyr wedi targedu’r banc trwy gymryd mantais ar “wendidau” yn nyluniad carden ddebyd a rheoliadau ariannol y banc, yn ogystal â’r tîm sy’n gyfrifol am ddelio â throseddau.
Fe gollodd y banc £2.26m mewn cyfnod o ddau ddiwrnod o ganlyniad i’r ymosodiad ym mis Tachwedd 2016.
Mae’r corff arolygu’n dweud y byddai Banc Tesco wedi derbyn dirwy gwerth £33.56m pe baen nhw heb ddatrys y broblem yn gynt.
Derbyn y ddirwy’n llawn
“Rydym yn ymddiheuro am yr effaith a gafodd yr ymosodiad twyllodrus hwn ar ein cwsmeriaid,” meddai Gerry Mallon.
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau diogelwch i gyfrifon ein cwsmeriaid ac rydym yn derbyn dirwy’r FCA yn llawn.
“Rydym bellach wedi gwella ein mesurau diogelwch i sicrhau bod gan gyfrifon ein cwsmeriaid y lefel uchaf o ddiogelwch.
“Rydw i’n ymddiheuro i’n cwsmeriaid am unrhyw drafferthion a fu yn 2016.”