Mae dau berson arall wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn ym Mhentywyn yn Sir Gaerfyrddin ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw Simon Clark, 54 oed, ym Mharc Carafanau Grove ddydd Gwener (Medi 28).

Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arestio dyn 40 oed ar amheuaeth o lofruddio, a dynes 46 oed ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae dyn 48 oed, a gafodd ei arestio yn fuan wedi’r digwyddiad ar amheuaeth o lofruddio, yn parhau yn y ddalfa hefyd.