Mae dyn wedi dwyn achos preifat yn erbyn yr actor Kevin Spacey gan ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol arno.
Mae’r actor Americanaidd eisoes yn destun dau ymchwiliad gan yr heddlu yng ngwledydd Prydain ac yn yr Unol Daleithiau.
Fel rhan o’r achos diweddaraf, mae wedi’i gyhuddo o ymosod ar y tylinwr mewn eiddo yng Nghaliffornia yn 2016.
Dywed papurau sydd wedi’u cyflwyno fel tystiolaeth fod yr actor wedi gorfodi’r dyn i’w gyffwrdd mewn modd rhywiol cyn ceisio’i orfodi ei hun arno fe a’i gusanu. Ar ôl i’r dyn ei gwestiynu, fe geisiodd e ei gusanu eto.
Pan ofynnodd y dyn iddo adael yr eiddo, mae’n honni bod Kevin Spacey wedi cynnig cyflawni gweithred ryw arno.
Mae’r papurau’n honni bod ymddygiad Kevin Spacey yn “eithafol ac yn warthus” a “heb ystyried hawliau na theimladau’r sawl sydd wedi gwneud cwyn”, a bod ei weithredoedd wedi cael effaith seicolegol ddifrifol ar y dyn.
Mae wedi penderfynu dwyn achos yn erbyn yr actor am ymosod, ymosod ar sail rhywioldeb, achosi aflonyddwch emosiynol a’i gaethiwo yn erbyn ei ewyllys.
Honiadau blaenorol
Mae Heddlu Scotland Yard eisoes wedi agor chwe achos yn erbyn Kevin Spacey, yn dilyn nifer o honiadau am ddigwyddiadau yn Llundain a Chaerloyw.
Mae hefyd yn destun ymchwiliad yng Nghaliffornia.
Roedd yn gyfarwyddwr artistig ar theatr yr Old Vic yn Llundain rhwng 2004 a 2015, ac yn un o’r sêr ffilm cyntaf i ddod dan y lach yn sgil sgandal y cyfarwyddwr Harvey Weinstein.
Fe wnaeth yr actor Anthony Rapp honni bod Kevin Spacey wedi’i orfodi ei hun arno’n rhywiol pan oedd yn 14 oed, a’r actor yn 26 oed yn 1986.
Yn ôl Kevin Spacey, dydy e ddim yn cofio’r digwyddiad honedig, ond fe ymddiheurodd am unrhyw “ymddygiad meddw amhriodol”.
Yn sgil yr honiadau yn ei erbyn, fe gollodd ei ran yng nghyfres Netflix, House of Cards a’r ffilm All The Money In The World gan Syr Ridley Scott.