Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r awdur rhaglenni plant, John Cunliffe, a fu farw yn 85 oed yr wythnos ddiwethaf.

Mae’n fwyaf adnabyddus am greu y rhaglenni plant poblogaidd, Postman Pat a Rosie and Jim.

Fe ymddangosodd Postman Pat, sydd wedi’i leoli ym mro mebyd yr awdur yn Swydd Efrog, ar y teledu am y tro cyntaf yn 1981, ac erbyn hyn mae wedi cael ei ddarlledu mewn dros 55 o wledydd.

Bu John Cunliffe hefyd yn actio yn rhai o’i raglenni, ac ef oedd gyrrwr cyntaf y cwch yn Rosie and Jim, a ymddangosodd ar y teledu am y tro cyntaf yn 1990.

Cyn dod yn awdur ar gyfer y teledu, bu John Cunliffe yn athro ysgol a llyfrgellydd.

“Swyn a chynhesrwydd

Mewn teyrnged iddo, mae’r Post Brenhinol yn dweud eu bod nhw wedi’u “tristau” o glywed am farwolaeth John Cunliffe.

“Fe greodd gymeriad a oedd yn cael ei garu gan yr hen a’r ifanc fel ei gilydd, wrth danlinellu’r swydd unigryw y mae dynion a merched y post, yn eu faniau coch, yn eu gwneud mewn cymunedau ledled y wlad,” meddai’r datganiad.

Yn ôl Cyfarwyddwr Rhaglenni i Blant y BBC, Alice Webb, mae poblogrwydd Postman Pat wedi parhau hyd heddiw oherwydd i’r awdur blannu “swyn a chynhesrwydd” yng nghymeriadau’r gyfres.

“Mae’n fyd yr ydych chi eisiau bod yn rhan ohono – cymuned sy’n gofalu, sy’n llawn caredigrwydd ac sy’n llawn hwyl – ac mae hynny’n beth hyfryd i ddangos i gynulleidfa, boed hen neu ifanc,” meddai.