Mae gwyntoedd cryfion wedi aro Groeg gan orfodi awdurdodau i gau ysgolion a stopio gwasanaethau fferi.

Ym mhrifddinas y wlad, Athens, cwympodd coed ar linellau pŵer gan achosi trafferthion i drigolion yng ngogledd y ddinas.

Ac ar ynysoedd Zakynthos, Tinos, Andros a Mykonos, yn ogystal ag ardal Saronic, bu’n rhaid cau’r ysgolion oherwydd y tywydd garw.

Ar ynys Kefallonia bu’n rhaid gwagio ysgolion wrth i’r gwyntoedd cryfion hybu’r tanau gwyllt yno.

Mae meteorolegwyr wedi rhybuddio bod tywydd mwy garw ar y gweill, a gallai’r gwyntoedd cryfion droi’n seiclon.