Mae disgwyl i’r tywydd braf barhau tan o leiaf y penwythnos, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Er bod diwedd mis Medi yn agosáu, mae arbenigwyr yn dweud y bydd y tywydd mwyn yn parhau am rai dyddiau eto, er bod disgwyl iddi oeri ar ôl nosi.
Yn ystod y dydd yfory, bydd y tymheredd yn cyrraedd uchafbwynt o 16⁰C mewn ardaloedd fel Abertawe a Chaerdydd yn y de, ac uchafbwynt o 13⁰C ar Ynys Môn.
Mae disgwyl rhywfaint o rew ledled y wlad yn ystod y nos wedyn hyd at fore Sadwrn, ond gyda hynny fe ddylai’r tymheredd ddod yn fwyn eto gyda dim ond ambell gwmwl yn ymgasglu yn y gogledd a’r gorllewin.
Yr un fydd y stori ddydd Sul, er bod disgwyl i’r gwynt gryfhau gan ostwng y dymheredd i 14⁰C.
“Mae tipyn mwy o wynt yn mynd i fod, felly fe fydd yn wyntog trwy gydol y dydd,” meddai Becky Mitchell o’r Swyddfa Dywydd.
“Mae siawns am law yn y gogledd hefyd, ond ar wahân i hynny fe ddylai gadw’n sych.”