Gorsaf niwclear Fukushima
Yn Japan, mae galw am symud mwy na miliwn o bobl wrth i gorwynt pwerus anelu at arfordir gogledd ddwyrain y wlad, sef safle’r orsaf ynni niwclear a ddifrodwyd gan y tsunami a’r daeargryn ar 11 Mawrth.
Yn ol yr heddlu mae pump o bobl wedi eu lladd neu ar goll ar ol i’r afon godi wrth i Teiffŵn Roke ddynesu. Mae’r gwyntoedd, hyd at 100 milltir yr awr.
Mae na bryderon y bydd corwynt yn cael effaith ar yr orsaf niwclear Fukushima Dai-ichi, a fu’n gollwng ymbelydredd ar ôl y tsunami.
Fukushima
Dywedodd Takeo Iwamoto, llefarydd ar ran Tokyo Electric Power, y cwmni sy’n gweithredu’r orsaf niwclear, na fydd y corwynt yn peryglu’r system sy’n cadw’r adweithyddion yn oer.
Yn ôl adroddiadau yn Japan mae mwy na miliwn o bobl wedi cael gorchymyn neu wedi eu cynghori i adael eu cartrefi gan fod na bryder y bydd llifogydd mawr yn sgil y corwynt.
Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd a difrod i ffyrdd mewn sawl lle yn Nagoya a dinasoedd eraill.