Mae seren bop o Uganda – sydd hefyd yn wleidydd – ar ei ffordd adref i’r wlad yn dilyn achos honedig o artaith.
Mae Bobi Wine – Kyagulanyi Ssentamu yw ei enw go iawn – wedi ei gyhuddo o fod yn fradwr, ac ar hyn o bryd mae’n rhydd ar fechnïaeth.
Bu iddo ffoi i’r Unol Daleithiau er mwyn derbyn triniaeth ar gyfer anafiadau’r artaith honedig, ac mae’n honni mai’r wladwriaeth oedd yn gyfrifol am ei anafu.
Mae awdurdodau Uganda eisoes wedi dweud y bydd heddlu yn cadw llygad arno pan fydd yn glanio yn y wlad, ac mae Kyagulanyi Ssentamu wedi ymateb yn chwyrn i hynny.
“Dw i’n ddyn rhydd, gyda’r hawl i deithio’n rhydd o fewn fy ngwlad,” meddai. “Pa hawl sydd gan yr heddlu i wneud hyn?”