Mae degau ar filoedd o gartrefi heb gyflenwad trydan ac ardaloedd dan ddŵr wrth i Gorwynt Florence daro arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau bore ma ac mae’r rhagolygon yn awgrymu y bydd y storm yn gwaethygu.
Fe darodd y storm arfordir Carolina ddydd Iau ac fe allai barhau am rai dyddiau eto. Mae nifer o ardaloedd dan ddŵr oherwydd glaw trwm, gwyntoedd cryfion, a lefel uchel y môr.
Wrth i’r storm symud o’r arfordir at y tir roedd y gwynt wedi dechrau gostegu i tua 90mya erbyn nos Iau.
Ond mae Llywodraethwr y dalaith Roy Cooper wedi rhybuddio am “ddifrod sylweddol” ac wedi gwneud cais am gymorth ychwanegol.
Fe rybuddiodd pobl i beidio llaesu dwylo gan ddweud: “Mae’n storm bwerus sy’n gallu lladd.”
Mae mwy na 80,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan ac mae 12,000 o bobl wedi symud i lochesi. Yn Virginia mae tua 400 o bobl hefyd wedi ffoi o’u cartrefi.
Dywedodd swyddogion bod 1.7 miliwn o bobl yn y Carolinas a Virgina wedi cael rhybudd i adael eu cartrefi ond nid yw’n glir faint sydd wedi gwneud hynny.