Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi wfftio ystadegau sy’n nodi bod bron 3,000 o bobol wedi marw yn Puerto Rico ar ôl i Gorwynt Maria daro’r ynys y llynedd.
Mae Donald Trump yn honni bod yr ystadegau yn ymgais gan y Democratiaid i daflu baw ar ei enw.
Yn ôl ystadegau, bu farw 2,975 o bobol yn y chwe mis ar ôl i’r corwynt daro Puerto Rico ym mis Medi 2017, ac mae llywodraethwr yr ynys bellach wedi derbyn y ffigwr hwnnw.
“Pan wnes i adael yr ynys, AR ÔL i’r storm daro, roedd rhwng 6 a 18 wedi marw,” meddai Donald Trump ar y wefan gymdeithasol, Twitter.
“Wrth i amser fynd yn ei flaen, wnaeth [y ffigwr] ddim cynyddu llawer. Yna, ar ôl cyfnod hir wedyn, fe ddechreuon nhw adrodd ffigyrau llawer uwch, fel 3,000…”
Mae maer San Juan yn Puerto Rico, Carmen Yulin Cruz, wedi cyhuddo Donald Trump o fod yn “wallgo”, gan ychwanegu ei fod yn “haerllug os yw’n meddwl bod hyn amdano.”