Mae ymgeisydd asgell-dde yn y ras am arlywyddiaeth Brasil wedi derbyn anafiadau difrifol ar ôl cael ei drywanu mewn digwyddiad gwleidyddol.

Mae Jair Bolsonaro ar hyn o bryd yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, ac mae disgwyl iddo fod yn yr uned gofal dwys am o leia’ saith diwrnod.

Yn ôl yr heddlu, mae dyn 40 oed, o’r enw Adeilo Bispo de Oliveira, wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn Juiz de Fora, sydd tua 125km i’r gogledd o Rio de Janeiro.

Mae polau piniwn ar hyn o bryd yn gosod Jair Bolsonara yn yr ail safle yn y ras i fod yn arlywydd Brasil, gyda’r Arlywydd presennol, Luiz Inacio Lula da Silva, ar y blaen.

Does dim hawl gan Luiz Inacio Lula da Silva, sydd ar hyn o bryd yn y carchar, sefyll am yr arlywyddiaeth eto, ond mae’n dal i wneud apêl.

Gobaith Jair Bolsonar, pe bai’n cael ei ethol yn Arlywydd, yw cael gwared ar lygredd o wleidyddiaeth Brasil yn ogystal â mynd i’r afael a’r cynnydd mewn troseddau yn y wlad.