Mae sefydlydd rhwydwaith milwrol yn Afghanistan, Jalaluddin Haqqani, wedi marw yn dilyn blynyddoedd o salwch.
Roedd y rhwydwaith Haqqani, a oedd â chysylltiadau agos â’r Taliban ac al-Qaida, yn cael ei ystyried yn un o elynion penna’ lluoedd arfog yr Unol Daleithiau yn Afghanistan.
Mae llefarydd ar ran y Taliban wedi cadarnhau bod Jalaluddin Haqqani wedi marw yn Afghanistan ddydd Llun (Medi 3).
Roedd wedi’i barlysu am y deng mlynedd ola’ o’i oes, ac roedd ei rwydwaith yng ngofal ei fab, Sirauddin Haqqani, sydd hefyd yn ddirprwy arweinydd y Taliban.
Roedd yna sibrydion yn 2015 bod Jalaluddin Haqqani wedi marw flwyddyn ynghynt, ond methwyd â chadarnhau y rheiny.
Cafodd y rhwydwaith Haqqani ei enwi’n sefydliad brawychol gan yr Unol Daleithiau yn 2012.