Mae’r heddlu wedi lladd dyn a ymosododd ar bobol â chyllell yn Ffrainc.

Y gred ydi ei fod wedi lladd dau o bobol, cyn i’r heddlu ei ladd yntau mewn tref i’r gorllewin o’r brifddinas, Paris.

Mae Jean-Jacques Brot, prif lywodraethwr yr heddlu yn ardal Yvelines wedi rhoi neges ar Trydar yn cadarnhau fod yr ymosodwr yn nhtref Trappes wedi cael ei “niwtraleiddio” a’i ladd.

Mae’r neges Trydar hefyd yn dweud fod yr ymosodwr wedi lladd dau o bobol, a bod un person arall wedi’i anafu’n ddifrifol ganddo.

Yn gynharacvh, roedd adroddiadau’n honni fod yr ymosodwr wedi defnyddio cyllell, cyn cael ei saethu gan yr heddlu.