Mae cwmni hedfan Ryanair wedi dod i gytundeb ag undeb y peilotiaid, Forsa, yn dilyn 22 awr o drafodaethau.
Y cam nesa’ fydd i’r cytundeb newydd rhwng y ddwy ochr fynd gerbron aelodau Forsa, ac iddyn nhw bleidleisio tros ei dderbyn neu ei wrthod.
“Yn dilyn 22 awr o drafod, a ddechreuodd ben bore Mercher (Awst 22) ac a ddaeth i ben ben bore Iau (heddiw), rydan ni wedi dod i gytundeb â Ryanair ar fater anghydfod y peilotiaid,” meddai llefarydd ar ran Forsa.
“Fe fydd Forsa yn argymell i’w aelodau dderbyn y telerau y mae Ryanair yn fodlon â nhw.”
Cefndir yr anghydfod
Mae’r anghydfod tros amodau gwaith, tros symud mannau gwaith a thros faint o wyliau blynyddol mae peilotiaid yn eu cael.
“Mae Ryanair wedi cadarnhau ei fod wedi taro cytundeb gydag undeb Forsa a phwyllgor peilotiaid Iwerddon,” meddai llefarydd ar ran y cwmni awyren.”