Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yw’r arafach o holl wasanaethau ambiwlans ledled Prydain i ymateb i alwadau 999.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu pedwar achos yn gorfod aros dros 50 awr i gael ambiwlans, yn ôl canlyniadau cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC.
Mae’r data yn dangos bod un person wedi gorfod aros 62 awr cyn cael cymorth brys.
“Galwadau llai difrifol”
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei fod yn derbyn bod nifer o gleifion yn aros “llawer hirach na fyddai unrhyw un am [aros]” ond nad oedd y ffigurau yn “nodweddiadol”.
Mae’n debyg bod yr achosion hiraf o aros wedi bod ar gyfer “galwadau llai difrifol” a bod pobol sydd mewn perygl o golli eu bywydau yn gorfod cael blaenoriaeth.
“Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’r pen eithaf o’r sbectrwm amseroedd aros a dydyn nhw ddim yn nodweddiadol nac yn egluro amgylchiadau’r achosion unigol hyn,” meddai Stephen Clinton, cyfarwyddwr cynorthwyol y gwasanaeth yng Nghymru.
Dywedodd fod cleifion mewn rhai achosion eisoes mewn gofal timau meddygol, tra bod eraill yn cael eu heffeithio gan amodau tywydd eithafol.
Mae’r data yn dangos hefyd bod nifer y galwadau i wasanaethau ambiwlans wedi cynyddu 15% rhwng 2015 a 2017.