Mae gwyntoedd cryfion a glaw trwm yn gwneud eu ffordd i gyfeiriad De Corea, ac mae’r wlad wrthi’n canslo teithiau awyren ac yn cau ysgolion, rhag ofn.

Mae Teiffŵn Soulik yn symud ar gyflymder o 2.5 milltir yr awr ar hyn o bryd, oddi ar arfordir ynys ddeheuol Jeju. Mae yna beryg y bydd yn achosi gwyntoedd “cryf iawn” yn ogystla â glaw trwm tros yr holl wlad fory (dydd Gwener, Awst 24).

Mae arlywydd De Corea, Moon Jae-in wedi gorchymyn i’r awdurdodau wneud ymdrech arbennig i leihau’r difrod sy’n cael ei achosi gan y tywydd gwael.

Mae disgwyl teiffŵn arall, o’r enw Cimarron, i groesi gorllewin Japan heno (nos Iau), ac mae’r swyddfa dywydd yn rhybuddio rhag gwyntoedd yn hyrddio, tonnau uchel a glaw trwm.