Mae aelod o fudiad protest, Pussy Riot, yn Rwsia, yn cynnig cyngor i Brif Weinidog Cymru ar fater ffeministiaeth.
Mae Maria Alyokhina yn dweud y byddai’n fodlon trafod gyda Carwyn Jones, wedi iddo yntau sôn am ei awydd i droi Cymru yn wlad lle mae merched yn teimlo’n hyderus i fod yn nhw’u hunain. Roedd wedi gwneud araith yn dweud ei fod am weld Cymru y wlad saffaf yn Ewrop i ferched fyw.
Mae’r gantores pync yn perfformio yng Nghaerdydd nos Iau yr wythnos hon (Awst 23), ond fe fu ond y dim iddi fethu â dod i wledydd Prydain oherwydd bod gwasanaethau cudd Rwsia yn ei gwahardd rhag teithio y tu allan i’r wlad.
Mae wedi treulio dwy flynedd yng ngharchar, a dim ond trwy gael y gorau ar y milwyr sy’n cadw’r ffin yn ei gwlad enedigol y llwyddodd i adael am Gaeredin… ac yna i Gymru.
“Dyma ein tro cyntaf yng Nghymru,” meddai Maria Alyokhina wrth Cerith Mathias mewn cyfweliad yn y cylchgrawn Welsh Arts Review. “Ein neges ni ydi reiat, ond mae’r gair ola’ wastad gyda’r unigolyn sy’n dewis mynd mas ar y stryd i brotestio.
“Mae’r datganiad (gan Carwyn Jones) yn un da,” meddai wedyn. “Mae ffeministiaeth yn ymwneud â hawliau cyfartal ac am gael llais. Mae’n bwysig ein bod yn clywed lleisiau menywod.
“Rwy’n byw mewn gwlad lle y gall menywod, mewn ambell ardal, gael eu llabyddio (taro â cherrig) am wisgo sgert fer. Mae’n bwysig i bawb yn y byd wybod am yr hyn sy’n digwydd yn Rwsia… ac yn y Dwyrain Canol. Mae’n rhaid i ni wrando ar leisiau menywod.
“Rwy’ am i leisiau menywod gael eu clywed, ac iddyn nhw beidio â theimlo cywilydd na chael eu curo oherwydd y ffordd maen nhw’n edrych neu’r ffordd y mae’n nhw’n gwisgo. Pethau syml. Alla’ i ddim rhoi un darn o gyngor i Carwyn Jones, oherwydd mae yna lawer o bethau… ond fe allwn i drafod y mater gydag e.”
Fe fydd Pussy Riot yn perfformio yn Tramshed, Caerdydd nos Iau, Awst 23.