Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gâr wedi ei enwi’n un o erddi gorau gwledydd Prydain.

Er mai Gerddi Barnsdale yn Rutland, Lloegr, sydd wedi ei ennill teitl ‘Gardd Gorau Gwledydd Prydain’, mae’r ardd ger Llanarthne wedi ennill teitl ‘Gardd Orau Cymru’.

Cafodd enillwyr y teitlau yma eu dewis gan ddarllenwyr Garden News, a bellach mae rhestr wedi ei lunio yn nodi 100 Gardd Gorau’r Deyrnas Unedig.

“Anrhydedd”

“Canmoliaeth fawr yw cael ein cydnabod yn Ardd Ymwelwyr Gorau Cymru gan ddarllenwyr Garden News,” meddai Huw Francis, Cyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg.

“Mae’r ffaith bod cynulleidfa fel hyn yn medru gwerthfawrogi ein casgliadau planhigion arbennig, ac wedi rhoddi’r teitl yma i ni, yn anrhydedd mawr.”

Yn ogystal â bod yn atyniad i ymwelwyr, mae’r Ardd Fotaneg yn ganolfan ymchwil, ac yn gartref i dŷ gwydr ‘un-bont’ mwyaf y byd.