Mae dynes yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yng Nghaerdydd ddydd Gwener diwethaf (Awst 17).

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Cyncoed am 8.20yb, a chafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn ei sgil.

Mae dyn 39 blwydd oed o Lanedern wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anafu trwy yrru’n beryglus, ac wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac yn apelio ar dystion i gysylltu â nhw. Hyundai melyn a Volvo du oedd y ceir.