Mae gwleidyddion ledled y hyd wedi galw ar i Zimbabwe gyhoeddi canlyniad ei hetholiad arlywyddol cyn gynted ag sy’n bosib, wrth i densiynau ddwysau yno.
Er i’r etholiad gael ei gynnal ddydd Llun (Gorffennaf 30) dyw’r genedl ddim callach ynglŷn â phwy yw ei harlywydd nesa’.
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn cydnabod bod y pleidleisiau i gyd, bron â bod, wedi’u cyfri, ond does dim disgwyl cyhoeddiad ar y mater tan yn ddiweddarach heddiw (Awst 2).
Yn Harare, prifddinas Zimbabwe, mae’r oedi wedi corddi’r dinasyddion, a bu protestio treisgar yno ddydd Merchet (Awst 1).
Cafodd milwyr arfog eu hanfon i ddelio â’r gwrthdystio, a bu farw o leia’ dri pherson yn ystod y trais.
Pryder rhai yn Zimbabwe yw bod twyll ar waith, a dyw’r ffaith bod Zanu-PF – prif blaid Zimbabwe ers 1980 – wedi llwyddo ennill mwyafrif yn senedd y wlad unwaith eto, heb leddfu’r gofid.