e dyn a dynes wedi cael eu harestio yn dilyn digwyddiad yng nghanol tref Caerfyrddin nos Fercher (Awst 1).

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, daeth y digwyddiad ar Heol y Dŵr i ben mewn modd “diogel”, ac mae’r llu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth.

“Hoffwn ddiolch aelodau’r cyhoedd ac i asiantaethau partner am eu cefnogaeth â’u gweithredoedd,” meddai llefarydd ar ran y llu.

“Fe helpodd hyn ni i ddod â’r digwyddiad i ben mewn modd diogel.”

Gwagio tai

O ganlyniad i ddigwyddiad neithiwr, cafodd y stryd ei gau a bu’n rhaid gwagio 30 o dai cyfagos.

Bu’n rhaid trosglwyddo pobol o’r tai yma i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin.