Mae un o daleithiau’r Almaen wedi derbyn gorchymyn i dalu £687,000 i ffarmwr, yn dilyn achos llys yn ymwneud â phen ceffyl.
Roedd y pen efydd yn rhan o gerflun Rhufeinig – cerflun o’r Ymerawdwr Awgwstws – a chafodd ei ddarganfod gan archeolegwyr yn 2009.
Ar dir y ffarmwr yn Lahnau, talaith Hesse, y cafodd y pen ei ddarganfod, ac o dan gyfraith daleithiol y pryd roedd hawl ganddo i hanner pris y crair.
Bellach mae llys rhanbarthol Limburg wedi dyfarnu o blaid y ffarmwr, ac mae’n bosib y gallai hawlio daliadau llog.
Bydd modd i dalaith Hesse apelio yn erbyn y penderfyniad.