gelyniaeth pymtheg blynedd o hyd yn raddol dod i ben, bydd arlywydd Somalia yn ymweld ag Eritrea dros y penwythnos.
Yn ôl un o weinidogion Eritrea, bydd Mohamed Abdullahi Mohamed yn ymweld â nhw ddydd ar ddydd Sadwrn (Gorffennaf 28).
Er gwaetha’ honiadau bod Eritrea yn annog brawychiaeth mewn rhannau o Somalia, mae’r berthynas rhwng y ddwy wlad i weld yn gwella.
Daw hyn wrth i’r berthynas wella rhwng Eritrea â’u cymydog arall, Ethiopia.
Er bu’r ddwy wlad yn elynion am dros ddegawd, mae’r pethau i weld yn newid a bellach mae Prif Weinidog Ethiopia, Abiy Ahmed, wedi galw am roi diwedd ar sancsiynau yn erbyn eu cymydog.