Mae arlywydd yr Unol Daleithiau yn bostio bod y “byd cyfan” yn cenfigennu wrth economi ei wlad.
Daw hyn wrth i ffigurau ddangos bod yr economi wedi tyfu gan 4.2% rhwng Ebrill a Mehefin eleni.
Yn ôl Donald Trump, mae hyn yn “gynaladwy” ac mae modd cyflawni cynnydd tebyg eto… er bod arbenigwyr yn amau hyn.
Maen nhw’n dadlau bod y twf yn seiliedig ar ffactorau dros dro, gan olygu bod cynnydd o’r fath yn anghynaladwy.
Corddi
Ers dod i rym mae Donald Trump wedi bod yn corddi’r dyfroedd yn rhyngwladol trwy gefnu ar gytundebau, a tharo bargeinion newydd a dadleuol.
Gan ymateb i’r data, mae wedi mynnu y bydd corddi pellach yn arwain at dwf “llawer uwch”.