Mae’r Unol Daleithiau wedi derbyn gan Ogledd Corea yr hyn maen nhw’n credu yw gweddillion milwyr a fu farw yn ystod Rhyfel Corea.
Fe wnaeth awyren filwrol o’r Unol Daleithiau daith brin i ddinas arfordirol yng Ngogledd Corea er mwyn casglu’r gweddillion.
Mae’r trosglwyddiad hwn yn cyflawni un o’r addewidion a gafodd eu hamlinellu yn yr uwchgynhadledd rhwng Kim Jong Un a Donald Trump fis diwetha’.
Mae’r Tŷ Gwyn wedi cadarnhau bod yr awyren sy’n cludo’r gweddillion wedi gadael dinas Wonsan yng Ngogledd Corea ac ar ei ffordd i Faes Awyr Osan ger Seoul yn y De.
Fe fydd seremoni arbennig yn cael ei chynnal yno ddydd Mercher nesa’ (Awst 1).
Rhyfel Corea
Mae tua 7,700 o filwyr yr Unol Daleithiau ar goll ers Rhyfel Corea rhwng 1950 a 1953.
Mae’n debyg bod 5,300 o weddillion yn dal i fod yng Ngogledd Corea.
Bu farw miloedd o bobol yn ystod y rhyfel, gan gynnwys 36,000 o filwyr yr Unol Daleithiau.
Does dim gwybodaeth ynglŷn â beth yn union sy’n cael ei drosglwyddo i’r Unol Daleithiau, ond mae adroddiadau wedi dweud eisoes y byddai Gogledd Corea yn dychwelyd tua 55 o weddillion.