Mae’r Llywodraeth yn bwriadu sgrapio cytundebau preifat yn y gwasanaeth prawf ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl ar gost o £170 miliwn.
Daw hyn ar ôl i’r Llywodraeth gydnabod bod methiannau yn y diwygiadau dadleuol a gafodd eu cyflwyno gan y cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling.
Fe fydd cytundebau gyda 21 o’r Cwmnïau Adsefydlu Cymunedol (CRCs) a gafodd eu sefydlu yn 2014, yn dod i ben yn 2020 yn lle 2022 ac fe fyddan nhw’n cael eu disodli gan rai newydd o dan gynlluniau’r Ysgrifennydd Cyfiawnder newydd David Gauke.
Dywedodd bod y rhaglen, a gafodd ei chyflwyno yng Nghymru a Lloegr i ofalu am droseddwyr risg-isel, wedi bod yn “uchelgeisiol” ond bod nifer o CRCs wedi gwneud “colledion sylweddol iawn.”
Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y gwaith oedd ar gael i’r CRCs wedi bod “yn llai na’r disgwyl” a bod hynny wedi cael effaith ar eu hincwm a’r gwasanaethau roedden nhw’n gallu eu darparu.
Serch hynny, dywedodd ei fod yn credu bod gan y sector preifat rôl i’w chwarae o hyd yn y gwasanaeth prawf “ond mae gwersi i’w dysgu i wella’r system.”